![]() |
![]() |
![]() |
||
21 Mehefin 2023
Parthed: Ymchwiliad i’r heriau sy'n wynebu gweithlu'r diwydiant creadigol yng Nghymru
Annwyl Dawn
Diolch am ymddangos yng nghyfarfod y Pwyllgor ddydd Iau, 25 Mai 2023 i roi tystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad i’r heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru. Hoffai’r Pwyllgor fynd ar drywydd nifer o faterion a drafodwyd a byddai’n ddiolchgar o gael y wybodaeth ychwanegol a amlinellir isod.
Amcanion ar gyfer y sector diwydiannau creadigol
A fyddech cystal â nodi amcanion allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithlu'r diwydiannau creadigol.
Data arolwg y diwydiannau creadigol
Mae’r Pwyllgor yn awyddus i ddeall y broses flaengynllunio, sut y caiff y blaenoriaethau ar gyfer Cymru Greadigol eu pennu, a’r metrigau a ddefnyddir i lywio’r penderfyniadau hynny. Yn ystod y cyfarfod, cytunoch chi i rannu copi o ddata arolwg y diwydiannau creadigol gyda’r Pwyllgor. Byddem yn ddiolchgar o gael copi o ddata’r flwyddyn gyntaf a’r data newydd pan fydd ar gael ym mis Gorffennaf 2023.
Cymorth i is-sectorau'r celfyddydau a cherddoriaeth
Nododd y Pwyllgor y cymorth ariannol ychwanegol a ddarparwyd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru i leddfu’r baich costau byw yn is-sectorau’r celfyddydau a cherddoriaeth. Mae’r Pwyllgor yn awyddus i wybod mwy am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r is-sectorau hyn. Yn ystod y cyfarfod, cytunoch chi hefyd i ddarparu rhestr o brosiectau eraill a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn yr is-sectorau hyn. Byddem yn ddiolchgar o gael y rhestr honno, a chael gwybod faint o gyllid a ddyfarnwyd i bob is-sector a gefnogwyd gan Cymru Greadigol dros y tair blynedd ariannol ddiwethaf, a throsiant pob un o’r is-sectorau hynny.
Maint cynulleidfaoedd
Fel y gwyddoch, mae wedi cymryd amser hir i gynulleidfaoedd ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig. Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar o gael unrhyw wybodaeth sydd gennych am faint cynulleidfaoedd mewn lleoliadau yng Nghymru ers dechrau’r pandemig ac unrhyw asesiad yr ydych wedi’i wneud o hyn.
Hwyluswyr llesiant
Hoffai’r Pwyllgor wybod a yw Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar arfer da mewn mannau eraill i gefnogi’r sector i wella dulliau o reoli gweithwyr a diwylliant yn y gweithle?
Gweithgarwch a gefnogir gan Cymru Greadigol
Yn ystod y cyfarfod, dywedoch chi wrthym fod lefel y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf drwy’r Gronfa Sgiliau Creadigol. Esbonioch chi fod dau ar bymtheg o brosiectau wedi’u hariannu ar hyn o bryd i fynd i’r afael ag anghenion sgiliau, a rhagwelir lefel debyg o fuddsoddiad yn y cylch ariannu nesaf. A fyddech cystal â rhoi amlinelliad o'r prosiectau hynny a'r swm a roddwyd i bob prosiect.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Yn ystod y cyfarfod, cytunoch chi i ddarparu rhestr o’r prosiectau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hariannu gyda’r nod o sicrhau gwelliannau yn y maes hwn. Hefyd, hoffai’r Aelodau weld y setiau data sylfaenol newydd ar gyfer mesur cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yng ngweithlu’r diwydiannau creadigol. A allech chi hefyd ddweud wrthym sut mae arfer da yn y maes hwn yn cael ei hyrwyddo a'i rannu ar draws y sector.
Datblygu sgiliau
O ystyried twf y sector yng Nghymru a’r bylchau sgiliau a nodwyd yn y gweithlu sydd ar gael, rydym yn awyddus i gael gwell dealltwriaeth o waith Llywodraeth Cymru i feithrin gallu a hirhoedledd mewn gweithlu cynaliadwy. Hoffai’r Pwyllgor wybod hefyd:
§ Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau y gall pob dysgwr ifanc ystyried dilyn cyrsiau addysg bellach ac uwch sy’n gysylltiedig â’r diwydiannau creadigol?
§ Pa waith sy’n cael ei wneud i hwyluso ymgysylltiad rhwng ysgolion, colegau, a sefydliadau addysg uwch?
§ Sut caiff effaith creadigrwydd yn y cwricwlwm newydd ei fesur? Byddem yn ddiolchgar o gael unrhyw wybodaeth sydd gennych am sut rydych chi’n bwriadu mesur allbynnau o elfen greadigol y cwricwlwm newydd.
§ Faint o gyllid sydd wedi’i ddyrannu i brosiect Academïau Sgrin Cymru, a sut mae’r prosiect hwn yn rhyngweithio ag ysgolion a cholegau?
§ Pa newidiadau sydd angen eu gwneud i wasanaethau cyngor gyrfaoedd yng Nghymru i sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn cael eu hystyried yn opsiwn gyrfa da i ddysgwyr?
§ Yn y gorffennol, dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fod sicrhau bod y cwricwlwm yn cynnwys pynciau galwedigaethol yn debygol o wella presenoldeb ac ymddygiad ymhlith rhai dysgwyr sydd fel arall yn ymddieithrio rywfaint. Pa waith sy’n cael ei wneud i sicrhau bod ystod o bynciau galwedigaethol ar gael i alluogi dysgwyr i weithio yn y diwydiannau creadigol?
Diwydiant gemau cyfrifiadur
Yn ystod y cyfarfod, amlinelloch chi gyllid i gefnogi graddedigion a busnesau bach i ddatblygu eu heiddo deallusol. Beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r is-sector gemau cyfrifiadur ar gyfer y tymor hwy i sicrhau twf a chyfran fwy yn y farchnad fyd-eang?
Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i’r heriau a ddaw yn sgil twf deallusrwydd artiffisial?
Edrychwn ymlaen at eich ymateb maes o law.
Yn gywir,

Delyth Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.